Neidio i'r prif gynnwys

URC a YYCC yn cynorthwyoi gael teulu rygbi YN ÔL I’R GȆM

Back in the game

Ydych chi wedi colli gwaith oherwydd y pandemig? Ydych chi’n gysylltiedig â rygbi Cymru?

Rhannu:

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gweithio gydag Ysgol Y Cnociau Caled i’ch helpu i’ch cael ‘Yn ôl yn y Gêm’ ac i gyflogaeth

Mae gan elusen YYCC dîm o arbenigwyr a fydd yn darparu cyfres o gyrsiau dwys am ddim, sy’n cael eu rhedeg ar-lein dros bum niwrnod. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gysylltiedig â rygbi Cymru sydd wedi colli ei swydd oherwydd y pandemig covid – chwaraewyr gwrywaidd neu fenywaidd, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr neu rieni i chwaraewyr. Gallai’r cwrs hwn roi’r hwb sydd ei angen ar aelodau’r teulu rygbi i fynd yn ôl i’r farchnad swyddi

Bydd y cyrsiau’n cynnwys cyfres o sesiynau ‘zoom’ sy’n cynnwys gweithdai lles personol a gweithgarwch corfforol, a ddarperir gan Alecs Donovan (Merched Cymru) a Richard Hughes (Ffitrwydd Celtaidd) gyda chyngor a chymorth ymarferol, un-i-un ar gyflogadwyedd.

Bydd 15 o gyfranogwyr ar bob cwrs pum niwrnod a bydd hyd at saith cwrs yn cael eu darparu. Gall unrhyw un sydd â chysylltiad â rygbi Cymru sy’n byw unrhyw le yng Nghymru sydd wedi colli gwaith oherwydd pandemig Covid wneud cais.

Meddai Catryn Grundy, Cyfarwyddwr Rhaglenni YYCC Cymru, “Mae’r cwrs ‘Yn Ôl I’r Gȇm’yn rhoi i bobl y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eu swyddi nid yn unig y sgiliau ond hefyd yr hyder i ymgymryd â’u her nesaf. Cefnogi cyfranogwyr i baratoi eu hunain yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ymarferol byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff dyddiol, gweithdai grŵp ac yn cael hyfforddiant un i un. Gyda CV unigryw, sgiliau cyfweld wedi’u miniogi a’r meddylfryd cywir, bydd y tîm YYCC yn rhoi’r holl offer sydd eu hangen arnoch i gael eich hun yn ôl yn y gêm!”

Meddai Cyfarwyddwr Cymuned URC, Geraint John, “Rydyn ni’n gwybod bod y cload wedi cael effaith andwyol ar nifer fawr o’r rhai sy’n ymwneud â rygbi Cymru ac rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i atebion ymarferol i’r materion y maent yn eu hwynebu.

“Mae’r prosiect ‘Yn Ôl I’r Gȇm’ yno i helpu unrhyw un yn y teulu rygbi sydd wedi colli cyflogaeth yn ystod y misoedd diwethaf i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym.”

Mae’r cysylltiad yn rhan o gyfres o gydweithio sydd â’r nod o helpu teulu rygbi Cymru i neidio’n ôl o effeithiau’r pandemig gyda mwy o newyddion i ddilyn yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

CLICK HERE i wneud cais am le ar gwrs ‘Yn ôl i’r Gêm’, neu e-bostiwch: backinthegameWRU@schoolofhardknocks.org.uk

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert